Yn bresennol
|
Categori
|
Enwau
|
|
Aelodau
o’r Senedd:
|
Mike Hedges AS
(Cadeirydd)
Samuel Kurtz
AS
Adam Price
AS
|
|
Tystion:
|
|
|
Staff y
Pwyllgor:
|
P Gareth
Williams (Clerc)
Sarah Sargent
(Ail Glerc)
Kate Rabaiotti
(Cynghorydd Cyfreithiol)
|
<AI1>
1
Cyflwyniad,
ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Cafwyd
ymddiheuriadau gan Alun Davies AS.
</AI1>
<AI2>
2
Offerynnau
sy’n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r
Senedd o dan Reol Sefydlog 21.7
</AI2>
<AI3>
2.1
SL(6)610 -
Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn
Rhif 5 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2025
Trafododd y
Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i'r
Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
</AI3>
<AI4>
3
Offerynnau
sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r
Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd
eisoes
</AI4>
<AI5>
3.1
SL(6)606 -
Rheoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Cymru) 2025
Nododd y
Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
</AI5>
<AI6>
4
Cytundeb
Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
</AI6>
<AI7>
4.1
Gohebiaeth oddi
wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y grwpiau
rhyngweinidogol
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â
chyfarfodydd: y Grŵp Rhyngweinidogol
ar Dwristiaeth a'r Grŵp Rhyngweinidogol
ar gyfer Busnes a Diwydiant.
</AI7>
<AI8>
4.2
Gohebiaeth gan
Brif Weinidog Cymru: Adroddiad Blynyddol y Cytundeb Treftadaeth
Geltaidd
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Prif Weinidog.
</AI8>
<AI9>
4.3
Gohebiaeth a
Datganiad Ysgrifenedig gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd
y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau
Rheolaethau Swyddogol (Ymestyn Cyfnodau Pontio) (Diwygio)
2025
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy
Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig.
</AI9>
<AI10>
4.4
Datganiad
Ysgrifenedig a gohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros
Gyllid a’r Gymraeg: Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Dirymu)
2025
Nododd y
Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig
a’r ohebiaeth oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid
a'r Gymraeg.
</AI10>
<AI11>
4.5
Gohebiaeth
â’r Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet
dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig: Rheoliadau Llygryddion
Organig Parhaus (Diwygio) 2024
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth oddi wrth y Dirprwy
Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a
Materion Gwledig.
</AI11>
<AI12>
5
Papurau i’w
nodi
</AI12>
<AI13>
5.1
Gohebiaeth gan y
Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni: Ymrwymiadau i
gywiro offerynnau statudol.
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler
Cyffredinol a’r Gweinidog Cyflawni.
</AI13>
<AI14>
5.2
Gohebiaeth oddi
wrth Lywodraeth Cymru: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau Cyflogaeth.
Nododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth gan Lywodraeth
Cymru mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor ar Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Hawliau
Cyflogaeth.
</AI14>
<AI15>
6
Cynnig o dan Reol
Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod
Derbyniwyd y
cynnig.
</AI15>
<AI16>
7
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil
Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg
Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i
drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
</AI16>
<AI17>
8
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gwasanaethau Bysiau (Rhif
2)
Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd ar ei
adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau i’w
cytuno y tu allan i’r Pwyllgor.
</AI17>
<AI18>
9
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil
Hawliau Cyflogaeth
Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol a chytunodd i
drafod adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
</AI18>
<AI19>
10
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Data
(Defnydd a Mynediad)
Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol, a chytunodd
ar ei adroddiad drafft.
</AI19>
<AI20>
11
Blaengynllunio
Gwaith
Bu’r
Pwyllgor yn trafod ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr
haf.
</AI20>
<AI21>
12
Yr wybodaeth
ddiweddaraf mewn perthynas â Charchar EF y Parc
Cafodd y
Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf mewn cysylltiad â Charchar
EF y Parc a chytunwyd i ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfod yn
y dyfodol.
</AI21>
<AI22>
13
Adroddiad
monitro
Cytunodd y
Pwyllgor ar ei adroddiad monitro.
</AI22>
<AI23>
14
Offerynnau
statudol a drafodwyd yn flaenorol
Ystyriodd y
Pwyllgor ei waith parhaus o fonitro offerynnau statudol, a
chytunodd i ysgrifennu at: y Cwnsler Cyffredinol a’r
Gweinidog Cyflawni; y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y
Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig; a’r Gweinidog
Plant a Gofal Cymdeithasol.
</AI23>
<AI24>
15
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cynllunio a Seilwaith
Trafododd y
Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunwyd i drafod
adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
</AI24>
<TRAILER_SECTION>
</TRAILER_SECTION>
<LAYOUT_SECTION>
1.
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
2.
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>
<HEADING_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
</HEADING_LAYOUT_SECTION>
<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<COMMENT_LAYOUT_SECTION>
FIELD_SUMMARY
</COMMENT_LAYOUT_SECTION>
<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.1
FIELD_TITLE
FIELD_SUMMARY
</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>
2.2
FIELD_TITLE
</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>